Cymuned - Community

Bydd Gofod Glas yn cydweithio ac yn creu gofod i gymunedau lleol, grwpiau ac arbenigwyr rannu a chael mynediad agored at wahanol fathau o wybodaeth yn ymwneud â dŵr.

Trwy’r cynulliadau hyn, mae’r prosiect yn gobeithio tynnu sylw at ddylanwad pwerus dŵr ar ddiwylliant, cymdeithas a’r amgylchedd, a chwestiynu “beth sydd angen ei newid er mwyn (ail)ddarganfod ffyrdd cynaliadwy o fyw gyda chynefinoedd dŵr croyw?”

Gofod Glas (Blue Spaces) will collaborate and create space for local communities, groups and specialists to openly share and access different forms of knowledge related to water.

Through these gatherings, the project hopes to highlight water’s powerful influence on culture, society and the environment, and to question “what needs to change in order to (re)discover sustainable ways of living with freshwater habitats?”

Rydym yn gobeithio gweithio gyda thua 3 cymuned yn Nyffryn Conwy, ac yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan unigolion, grwpiau a chymunedau.

Gall cymuned mewn lle, neu gymuned fod yn bobl sy'n rhannu diddordeb, pryder neu angen … ac weithiau gall fod yn unigolyn sy'n ceisio gweithio gydag eraill.

A fydd eich un chi yn un ohonyn nhw?

We are hoping to work with about 3 communities in the Conwy Valleys, and are seeking expressions of interest from individuals, groups and communities

A community maybe in a place, or a community might be people with a shared interest, concern or need … and sometimes might just be an individual seeking to work with others.

Will yours be one of them?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud rhywbeth gyda'ch cymuned cysylltwch â ni

If you are interested in doing something with your community please get in touch

Iwan.Edwards@northwaleswildlifetrust.org.uk