Amdan Cyfleuwr

Mae Cyfleuwr yn fenter gelfyddydol grwydrol a phlatfform curadu wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, sy'n cefnogi cydweithrediadau artistig mewn ymateb i bobl a lleoedd. Mae’n cael ei arwain gan David Cleary (fo/ei), curadur llawrydd sy’n canolbwyntio ar wella mynediad y cyhoedd i gelfyddyd a diwylliant drwy ffyrdd o weithio ar y cyd.

About Conveyor

Conveyor is a nomadic arts initiative and curatorial platform based in North Wales. It derives its name from a thing which communicates or transfers energy, and aims to produce collaborative art programmes in response to people and places. It is being led by David Cleary (he/him), a freelance curator focused on improving public access to art and culture through collective ways of working.

Members of the Conwy Youth Council participating in a conversational workshop, writing questions on a large map of the Conwy river catchment. Image taken by Catherine Davies

Aelodau o Gyngor Ieuenctid Conwy yn cymryd rhan mewn gweithdy sgwrsio, yn ysgrifennu cwestiynau ar fap mawr o ddalgylch afon Conwy. Tynnwyd y llun gan Catherine Davies

Documentation of a workshop held at RSPB Conwy, which shows a selection of coloured cards representing places, people and creative approaches selected by the artists and staff involved in Gofod Glas.

Disgrifiad o'r Llun: Dogfennaeth o weithdy a gynhaliwyd yn RSPB Conwy, sy'n dangos detholiad o gardiau lliw yn cynrychioli lleoedd, pobl a dulliau creadigol a ddewiswyd gan yr artistiaid a'r staff sy'n ymwneud â Gofod Glas.

“Yn draddodiadol, rhywun sy'n gysylltiedig ag oriel neu amgueddfa yw curadur. Maen nhw fel arfer yn cyflawni rôl ceidwad sy'n gofalu am waith celf ac arteffactau hanesyddol ac yn eu cyflwyno i'r cyhoedd, ac yn cefnogi artistiaid i greu gwaith newydd. 

Ar gyfer Cyfleuwr, mae curadu yn ffordd o drefnu pobl i ddod at ei gilydd a chreu gofodau ar gyfer cyfnewid diwylliannol a dysgu o wahanol safbwyntiau. Mae gan artistiaid y gallu unigryw i gyflwyno ffyrdd creadigol o weithio sy'n cydblethu gwybodaeth o wahanol leoedd ac yn ei gwneud yn hygyrch i fwy o bobl mewn modd sensitif.

Ar gyfer Gofod Glas, mae Cyfleuwr wedi bod yn cynnal sgyrsiau ac yn ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu dulliau a phrosesau dysgu. Bydd y dudalen hon yn rhoi mewnwelediad i ymagwedd y Cyfleuwr at guradu, ac yn rhannu ymchwil sydd wedi llywio ei gynnig ar gyfer proses ddysgu Gofod Glas.

Mae’r gwaith rydw i wedi bod yn ei ddatblygu ar gyfer Gofod Glas wedi datblygu drwy sgwrsio â chymunedau, gan archwilio sut mae ein profiadau bywyd yn effeithio ar ein perthynas â dŵr croyw. Roedd y rhain yn cysylltu â ffoaduriaid o Wcrain, grŵp cymunedol Byddar a phobl ifanc yng Nghonwy, i ddysgu o’u safbwyntiau ac i ddeall yn well sut y gellir strwythuro proses Gofod Glas fel y gallant gael mynediad i ddŵr croyw.”

“A curator is traditionally someone associated with a gallery or museum. They typically perform the role of a custodian who cares for artwork and historical artefacts, present them to the public, and supports artists to make new work. 

For Conveyor, curating is a way to organise people to come together and create spaces for cultural exchange and learn from different perspectives. Artists have the unique ability to introduce creative ways of working which intertwines knowledge from different places and sensitively make it accessible to more people.

For Gofod Glas, Conveyor has been holding conversations and researching ways to develop methods and processes of learning. This page will give insight into the Conveyor’s approach to curating, and share research that has informed its proposal for the Gofod Glas learning process.

The work I’ve been developing for Gofod Glas has emerged through conversation with communities, exploring how our embodied lived experiences affect our relationship to freshwater. These connected with Ukrainian refugees, a Deaf community group and young people in Conwy, to learn from their perspectives and to better understand how the Gofod Glas process can be structured so they can access freshwater.”