Strwythur,
safbwyntiau ac agosatrwydd: 
Delweddu proses ddysgu ar gyfer Gofod Glas

Structure,
perspective and intimacy:
Developing a process within Gofod Glas

Darlun sy'n disgrifio proses Gofod Glas sy'n cysylltu termau a ddewiswyd yn ystod y gweithdy yn RSPB Conwy i greu darlun symlach o gylchred ddŵr.

A drawing which describes the Gofod Glas process which entangles terms selected during the workshop at RSPB Conwy into a simplified drawing of a water cycle.

Delweddu'r broses

Dychmygwn y deiagram isod fel golygfa o ffenest dren, neu o fryn yn edrych dros Dyffryn Conwy, yr awyr, yr afon a’r tir i gyd o fewn un ffrâm.

Mae’r methodoleg hwn yn ein galluogi i ddisgrifio symudiadau Gofod Glas, a’r ffyrdd mae’r gwahanol elfennau’n ymateb ac yn ymwneud âi gilydd. Mae’r modd mae dŵr mewn ffurf o newid cyson yn ddylanwad. Wrth iddo drawsnewid o ffurf i ffurf, mae’n ymgasglu a chyfnewid moleciwlau a mineralau.

Dyma broses debyg i system dywydd gylchol, a chaiff ei dorri lawr mewn i dri cyflwr gwahanol ond cydberthynol. Ffurfiau nwyol, hylifol a solet.

Os dychmygwn bod pobl a’u syniadau yn foleciwlau, gyda’u nodweddion unigryw eu hunain, yn y broses hon maen nhw’n llifo trwy pob un o’r cyflyrrau. Ar y siwrne, maen nhw’n dod yn gyfansawdd wrth ymuno â moleciwlau eraill, yn rhan o rywbeth newydd. Catalyst yw Gofod Glas, y cerbyd sy’n eu cymryd ar daith.

Visualising the process

The diagram (above) is imagined as a view through a train window or whilst perched on a hillside looking across the Conwy Valley, the sky, the river and the land all within a single frame. 

The methodology attempts to describe the movements of Gofod Glas, and the way different elements react and connect to each other. This is inspired by the way water is in a constant process of change. As it transitions through different states, it gathers and transports molecules and minerals.

This process is similar to a cyclical weather system, and is broken down into three distinct but interrelated states that interact with one another. These are Gaseous, Liquid and Solid forms 

If we imagine that people and ideas are molecules, each with their own unique properties, this process imagines them flowing through all of these states. Whilst on the journey, they become a compound by joining other molecules, part of something new. Gofod Glas is the catalyst and means of taking them on a journey.

Ffurf Nwyol

Awyrgylch uwch a gwyntoedd (Partneriaeth a dysgu)

Mae ffrydiau’r awyr yn anniriaethol ac anianol; maen nhw’n effeithio ar ddosbarthiad adnoddau i ysgogi newid isod. Caiff eu cyflwr ei effeithio gan y nwyon a'r lleithder sy'n deillio o'r ddaear. Mae gwyntoedd cryfion yn dychwelyd dŵr croyw wedi'i anweddu o'r môr ‘nôl i'r tir.

Mae'r gyfatebiaeth wyntog hon yn cynrychioli’r ffordd mae agendâu, gwleidyddiaeth ac addysg yn dylanwadu ar benderfyniadau cyllidwyr a phartneriaid sy'n penderfynu sut caiff adnoddau eu dosbarthu a'u rheoli.

Mae gan y bartneriaeth ddylanwad cryf ar gyfeiriad Gofod Glas, gan ddiffinio beth sy’n cael ei gynnwys a’i gynnal yn hir-dymor. Serch hynny, nid oes rheolaeth lawn gan y bartneriaeth, na’r gallu i orfodi daear solet i symud. Yn wir, caiff eu blaenoriaethau eu siapio gan amodau’r tir. Mae’r pwynt lle mae gwyntoedd yn dychwelyd dŵr croyw ‘nol i’r tir yn symbol o sut ry’n ni’n dysgu o weithredu, a sut mae gwerthuso’n galluogi hyn i ddylanwadu cylchoedd olynol.

Cymylau (Preswylfeydd)

Mae cymylau’n casglu dŵr a moleciwlau eraill dros bellteroedd mawr, gan glymu nhw ynghyd wrth fynd, amsugno’u priodweddau a chronni màs anniriaethol sydd, yn y pen draw, yn llenwi'r awyr. Maent yn rhydd, yn dod mewn gwahanol feintiau, â'r rhyddid i orgyffwrdd ac uno. Maent yn fregus iawn i ddylanwad y gwynt.

Ffurf nwyol cwmwl sy’n disgrifio orau ffurf y preswylfeydd creadigol sydd yn ganolog i Gofod Glas. Cyfnod preswyl yw pan fydd artist yn cael ei ariannu i archwilio cwestiwn neu gwestiynau am ddŵr. Gallant wneud hyn mewn amserlen reoledig, ardal benodol, a gyda chymuned. Gellir ymestyn i gydweithrediadau hir-dymor, neu eu crynhoi i gyfnod prysur o weithgarwch. Mae eu ffurf yn hyblyg, a thros gyfnod preswyl, mae'r artistiaid yn ffurfio perthnasoedd ac yn ymgasglu cydweithwyr i weithio a dysgu, trwy eu hagwedd greadigol unigryw.

Gaseous Form

Upper atmosphere and winds (Partnership and learning) 

Airstreams are intangible and temperamental; they affect the distribution of resources to catalyse changes below. Their condition is affected by the gases and moisture emanating from the ground below. Strong winds return evaporated freshwater back inland from the sea. 

This analogy of winds, represents the way agendas, politics and learning influences the decision making of funders and the partners who determine the way resources are distributed and managed. 

The partnership has a strong influence over the direction of Gofod Glas, determining what is introduced or sustained over its lifespan. However, the partnership doesn’t have full control over what happens or the final outcome, and generally doesn’t have the force to move solid ground alone. In fact, their priorities are responsive to the conditions on the ground. The point where the winds return freshwater to land is symbolic of how we learn through action, and how evaluation allows this to influence consecutive cycles.

Clouds (Residencies)

Clouds gather water and other molecules over vast distances, binding them together along the way, absorbing their properties and accumulating an intangible mass which eventually fills the sky. They’re freeform, coming in different sizes with the freedom to overlap and merge together. They’re highly susceptible to the influence of the winds. 

The gaseous form of a cloud best describes the form of the creative residencies which are a fundamental element of Gofod Glas. A residency is when an artist is funded to explore one or more questions about water, They can do this within a controlled timescale, a specific locality, and with a community. These can be stretched into long-term collaborations, or they can be concentrated into a period of lots of activity. Their form is malleable, and over the course of a residency, the artists form relationships and gather collaborators to work and learn through their unique creative approach.

Ffurf Hylif

Glaw (Distyllu dysgu mewn i weithredoedd)

Mae cynnydd y cymylau mewn dwysedd yn troi yn y pen draw yn blu ‘cumulonimbus’. Pan mae’r amser a'r tymheredd yn iawn, maen nhw'n troi yn law trwm a niwl mwyn. Defnynnau yn socian mewn i bridd. Cronfeydd wedi'u llenwi. Yn rhedeg yn syth i lif afon.

Mae dwysedd cynyddol y cymylau yn dynodi penllanw’r dysgu rhwng cymunedau, safleoedd a gwybodaeth y mae’r artistiaid wedi’i gynnal. Y glawiad yw sut caiff y dysgu ei ddistyllu wedyn, ac yna ei ryddhau i'r byd.

Llifoedd afonydd a llednentydd (Rhaglenni cyhoeddus)

Negesydd yw’r afon, lle mae dŵr yn llifo a bywyd yn tyfu. Mae’n llinell las sy’n ffeindio’i ffordd i’r môr. Dros sawl cylch, mae'n trawsnewid y tirwedd, gan gerfio ei gwrs ei hun. Mae gan yr afon rythm. Gall fod yn ysgafn neu gall raeadru, gan adeiladu’r egni i ffurfio ffynhonnau, rhaeadrau a cheunentydd dyfnach.

Os yw glaw yn symbol o'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y preswylfeydd, mae'r afon yn cynrychioli'r rhaglen gyhoeddus, y sianel sy'n cymryd yr hyn a ddysgir yn ystod y preswylfeydd i gynulleidfa ehangach.

Mae rhaglen gyhoeddus yn gyfres o ddigwyddiadau sy'n ymatebol ac yn amrywiol eu natur. Gall hyn gynnwys dangosiadau, arddangosfeydd, perfformiadau a sgyrsiau, sy'n darparu profiad synhwyraidd unigryw. Mae llif cylchol a ffurfiant llinellol yr afon, o'r tarddiad i'r môr, yn cynrychioli'r rhaglen gyhoeddus o fewn cylchoedd ariannu. Mae’r cymoedd dyfnach yn cynrychioli ymddangosiad gofodau mwy a thyfu cymuned, wrth i’r prosiect wreiddio a dod yn fwy adnabyddus, gan gynnig mwy o weithgareddau i bobl gyfuno.

Liquid Form

Rainfall (Distilling learning into action)

The clouds' increase in density to eventually turn into cumulonimbus plumes. When the time and temperature is right, they convert themselves into rainfall of heavy downpours and gentle mists. Droplets soaked into soil. Reservoirs filled. Flowing directly into a river's stream.

The increased density of the clouds signifies the culmination of learning between communities, sites and knowledge which the creatives have mediated. The rainfall is how this learning is then distilled, and is then released into the world.

River Streams and tributaries (Public Programme)

The river is the conduit where water flows and life grows. It’s a blue line that finds its way out to sea. Over the course of several cycles, it transforms the landscape, carving its own course. The river has a rhythm. It can be gentle or it can cascade, building up energy to form deeper wells, waterfalls and ravines. 

If rainfall symbolises the knowledge gathered during the residencies, then the river represents the public programme, the channel which syphons what is learned during the residencies to a wider audience.

A public programme is a series of interrelated events which are responsive and diverse in nature. This can include screenings, exhibitions, performances and conversations which provide an elevated sensory experience. The cyclical flow and linear formation of the river from source to sea represents the public programme within funding cycles. The deeper valleys represent the emergence of bigger spaces and growing a community as the project becomes more embedded and known, offering more activities for people to coalesce.

Arglawdd afonydd (Gofod arlein)

Arglawdd yr afon yw'r trothwy rhwng dŵr a thir solet. Mae'r bilen yn cael ei geni o ymgasgliad llac y mwd, silt a thywod a adawyd gan lif yr afon. Dyma hefyd y pwynt lle caiff y pridd ei gyflwyno i'r dŵr, wedi ei erydu a'i anfon allan i'r môr.

Glan yr afon yw'r gofod arlein, lle mae modd cyhoeddi a darlledu ymchwil ac elfennau o'r rhaglen gyhoeddus. Dyma bont rhwng y rhaglen gyhoeddus a'r cyhoedd y tu hwnt i diriogaeth penodol Dyffryn Conwy. Dyma lle mae gwybodaeth gymunedol yn cael ei ymgasglu ac yn dod yn gompost i feithrin gwaith y dyfodol. Nid bod yn archif yn unig yw ei bwrpas. Mae hefyd yn fan chwarae ynddo’i hun, lle gall artistiaid weithio ac ysgogi gwahoddiadau i gydweithio’n ehangach, gan gysylltu â lleoliadau a chymunedau eraill.

Ffurf Solet / Lled-Solet

Dŵr daear a phridd (deialogau cymunedol)

Mae dŵr yn llithro oddi ar y graig cambriaidd ac yn treiddio i bridd mandyllog. Caiff ei arwain gan ddisgyrchiant at ddŵr daear, gan wlychu’r gwreiddiau a chynnal yr organebau sy'n byw yn y tir ar hyd y ffordd. Wedi'u cloi yn y tir, mae'r ecolegau carbon yn anadlu, yn tyfu, yn rhyddhau anwedd a nwyon oddi ar eu croen, i'r uwch-atmosffer.

Mae'r ddaear yn cynrychioli'r cyd-destun a'r realiti materol ry’n ni’n ymateb iddo. Dyma'r elfen drymaf, nes bod bron yn ansymudol. Y polisïau. Y sefydliadau. Y diwylliannau. Yr ecoleg. Y cymunedau. Yr iaith. Yr atgofion. Mae rhain i gyd yn bodoli’n un, mewn baw trwm a chymleth.

Dyma’r bob-dydd a’r profiadau byw o fodoli ar lawr gwlad, o’r lle mae pethau’n tyfu. Dyna ble ry’n ni'n byw, sut ry’n ni'n byw. Dyma’r maes lle mae gan Gofod Glas y lleiaf o reolaeth, ond lle mae ei waith yn llifo dan yr wyneb, ac yn y pen draw yn dylanwadu ar newid o’r math mwyaf arwyddocaol.

Solid /
Semi-Solid Form

Rivers embankment (Online Space)

The river's embankment is the threshold between the water and solid ground. The membrane is born from the loose gathering of mud, silt and sand left by the river's flow. It's also the point where the soil is introduced to the water. eroded and delivered out to sea.

The riverbank is the online space, where research and elements of the public programme can be published and broadcast. This is a bridge between the public programme and the public beyond the immediate territory of the Conwy Valley. It’s where community knowledge is compressed and becomes a compost to nourish future work. Its use is not limited to being an archive. It is also a place of play in of itself, where artists can work and prompt invitations for wider collaborations, and connect with other locations and communities.

Groundwater and soil (Community dialogues)

Water glides off the solid cambrian rock and permeates into porous soil. Gravity leads it to ground water, moistening the root systems and sustains the organisms inhabiting the land along the way. Locked within the land, these carbon-based ecologies breathe and grow, releasing condensation and gases directly off their skin, into the upper atmosphere. 

The ground represents the context and the material reality which we are responding to. It’s the element that feels most heavy and almost immovable. The policies. The institutions. The cultures. The ecology. The communities. The language. The memories. These all exist together in a complex weighty pulp. 

It's the everyday, and the lived experiences of life on the ground and it’s where things grow from. It's where we live, and how we live. It’s the realm which Gofod Glas has least control, but where the work it does flows beneath the surface, and eventually influences the most significant change.