Oracl Cwrwgl - Coracle Conversations
"With the approach of the investiture of the Prince of Wales in 1969, efforts were made to seek a political solution.
Denis Coslett of the Free Wales Army invited the Prime Minister Harold Wilson to meet him for coracle based discussions in the middle of the River Tywi but this invitation was declined."
- Rivers in the Welsh physical and cultural landscape by Catherine Duigan (p 19)
A allai Cwrwgl Conwy ein helpu i gael sgyrsiau da am ddŵr croyw?
Mae cwryglau yn cynrychioli cysylltiad agos rhwng pobl a'r amgylchedd, eu gwneuthuriad a'u defnydd. Ac roedd cwrwgl Conwy yn unigryw (wel, yn anarferol o leiaf) gan ei fod wedi'i gynllunio ar gyfer dau berson.
A allai Cwrwgl Conwy fod yn ofod neu’n symbol perffaith ar gyfer sgyrsiau dŵr croyw? Ar gyfer pysgota neu ‘gasglu’ safbwyntiau gwahanol?
Mae’r Ministry Dŵr am geisio adeiladu fflyd fechan o Gwryglau Conwy ac yn chwilio am bobl a hoffai gymryd rhan. Mae cymryd rhan AM DDIM. Cynhelir y gweithdai ym mis Chwefror/Mawrth 2025.
Could the Conwy Coracle help us have good conversations about freshwater?
Coracles represent an intimate connection between people and the environment, in their making and in their use. And the Conwy coracle was unique (well, unusual at least) in that it was designed for two people.
Could the Conwy Coracle be the perfect space or symbol for freshwater conversations? For fishing for or ‘gathering in’ different perspectives?
The Ministry of Water wants to try building a small fleet of Conwy Coracles and are seeking people who would like to take part. Participation is FREE.. The workshops will take place in February/March 2025.
Hanes y Cwrwgl Conwy - History of the Conwy Coracle
Ioan Glan Lledr
"Aed heibio cartref John Jones, neu Ioan Glan Lledr, yr olaf yn ôl traddodiad i bysgota â chwrwgl ar afonydd Lledr a Chonwy. Roedd yn fardd gwlad a lluniodd englyn sydd ar garreg fedd ei rieni ym Mynwent Sant Tudclud, Penmachno:
O dan hon mae ’nhad yn huno – a mam
’Run modd yn gorffwyso,
Ac yn fuan tan run to
Finnau geir, rwyf yn gwyro.
Ac yn wir, ni fu byw’n hir wedyn ac wedi ei gladdu yntau yn yr un bedd yn 1897, ychwanegodd rhywun y cwpled hwn:
Gwyrais, wyf yma’n gorwedd
Teulu ŷm mewn tawel hedd."
Extracts from Welsh Heritage Series No.5 ‘Traditional Fishing in Wales’ by Emrys Evans 1995
(First published in Welsh in 1989 by Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst)