Croeso! Welcome!


English below

Mae Gofod Glas yn brosiect sy’n archwilio’n greadigol berthynas pobl â dŵr croyw yn Nalgylch Afon Conwy.

Haf 2024

Rydym yn dechrau trwy ddarganfod pwy sydd â diddordeb, pa bryderon, cwestiynau a syniadau sydd gennych i gefnogi dyfroedd croyw glân ac iach yn nalgylch afon Conwy i'r dyfodol.

Nid oes angen bod yn ‘arbenigwr’ mewn dŵr croyw na gwybod beth y gallem ei wneud.

Hoffem ddod o hyd i unigolion a chymunedau sydd â diddordeb mewn ymuno â ni i ddarganfod, gweithredu, archwilio ffyrdd creadigol o ymgysylltu â chymunedau.

Efallai yr hoffech chi ddechrau trwy ddod i un o'n digwyddiadau mewn amrywiol ddigwyddiadau cymunedol yn ystod yr haf. Rhowch wybod i ni os hoffech i ni ddod i'ch digwyddiad CHI.

Hydref 2024 ymlaen

Erbyn yr Hydref, byddwn yn gweithio gyda thua 3 cymuned i gefnogi dyfroedd croyw glân ac iach yn nalgylch afon Conwy yn y dyfodol. A fydd eich un chi yn un ohonyn nhw?


Gofod Glas is a project creatively exploring people’s relationship with freshwater in the Conwy River Catchment area.

Summer 2024

We are starting by finding out who is interested, what concerns, questions and ideas do you have to support clean and healthy freshwaters in the Conwy river catchment into the future.

There’s no need to be an ‘expert’ in freshwater or to know what we could do. We’d like to find individuals and communities who are interested in joining us in finding out, taking action, exploring creative ways of engaging with communities

You might like to start by coming to one of our events at various community events during the summer. Let us know if you’d like us to come to YOUR event.

Autumn 2024 onwards

By the Autumn, we will be working with about 3 communities to support clean and healthy freshwaters in the Conwy river catchment into the future. Will yours be one of them?




Previous
Previous

Holi’r Dyffryn! Ask the Valley!